Ffermdy teulu gyda llety i wyth ydy Caeaugwynedd, ar gael i’w rhentu am wyliau bach neu fawr trwy gydol y flwyddyn. Mae’r tŷ yn eistedd yn dwt ar ymyl bryn ychydig dros filltir o Lanfyllin ym Mhowys.
Mae'r teulu Evans wedi rheoli’r tŷ brics coch a’r hen adeiladau fferm o’i gwmpas ers 1981 (a chyn hynny, eu cyn-deidiau, y teulu Jones).
Dyma rai o gyfleusterau'r tŷ:
-
Wedi’i osod mewn ardal dangnefeddus, heb ddim sŵn heblaw brefu’r defaid a chanu’r adar
-
Wifi, dau deledu (y ddau efo digifocs Freesat), cadair uchel, crud a barbeciw
-
Cyfleusterau swyddfa, gan gynnwys cyfrifiadur ac argraffydd
-
Agos i’r dre (lle mae digon o gyfleusterau – gweler isod)
-
Digon o le i barcio
-
Llety i wyth
-
Llawer i’ch diddanu yn yr ardal
-
Prisiau rhesymol dros ben – dim ond £30.00 y person, y noson (+ ffi o £78 am lanhau wedi'ch arhosiad)
-
Caiff plant o dan 18 mlwydd oed aros YN RHAD AC AM DDIM
-
Caiff grwpiau aros am £180.00 y noson am yr holl dŷ
Manylion

Ar y llawr waelod:
-
Lolfa fawr gyda soffas a chadeiriau, tân agored, teledu digidol freeview, chwaraewr DVDs, piano syth a gemau bwrdd
-
Cegin fawr gyda lle i 10 wrth y bwrdd, ffwrn drydan fawr a modern, hob mawr, peiriant golchi llestri, meicrodon ac oergell-rhewgell
-
Swyddfa fach gada chyfrifiadur ar ddesg ac argraffydd
-
Ystafell haul gyda seddi meddal a golygfeydd godidog, a phatio tu hwnt gyda barbeciw
-
Ystafell golchi dillad gyda pheiriant golchi a pheiriant sychu
-
Tŷ bach
Ar y llawr cyntaf:
-
Pedair ystafell wely; un â gwely dwbl, dwy â gwely brenin (un o'r rheiny yn en suite, gyda chawod) ac un ystafell â dwy wely sengl
-
Dwy ystafell ymolchi ar wahan; un â chawod ac un â bath
Cyfleusterau yn Llanfyllin

-
Nifer o siopau bach lleol, gan gynnwys cigydd Tomlinson, siop anrhegion a chynnyrch lleol 'Tri Dyffryn', oriel gelf 'Awen', a mwy.
-
Archfarchnad fach SPAR a Swyddfa’r Post.
-
Tai bwyta yn cynnwys Y Cain (bwyd tafarn) a Seeds (Good Food Guide a’r Michelin Guide)
-
Tai bwyta takeaway a chaffi 'Brew & Bants'
-
Lawr ymhellach drwy'r dref mae'r hen wyrcws/Y Dolydd - lle mae caffi arall o'r enw 'Meadows'.
-
Mae tref Y Trallwng – lle mae archfarchnadoedd mwy - tua 12 milltir i ffwrdd
Atyniadau lleol





