top of page

CAEAU GWYNEDD

Ffermdy hunan-arlwyo
ger Llanfyllin, Powys

Caeau Gwynedd

 

Ym mro’r ŵyn a miri’r wennol y mae

     un man cyfareddol,

a’i hedd yn wlith bendithiol

i’r rhai ddaw i grwydro’r ddôl.

 

Eirian Dafydd

Kitchen 2.JPG
Bedroom 1.JPG
image00005.jpeg
Outside 1.JPG

Ffermdy teulu gyda llety i wyth ydy Caeau Gwynedd, ar gael i’w rhentu am wyliau bach neu mawr trwy gydol y flwyddyn. Mae’r tŷ yn eistedd yn dwt ar ymyl bryn ychydig dros filltir o Llanfyllin ym Mhowys.

Mae'r teulu Evans wedi rheoli’r tŷ brics coch a’r hen adeiladau fferm o’i gwmpas ers 1981 (a chyn hynny, eu cyn-deidiau, y teulu Jones). 

Dyma rai o uchafbwyntiau'r tŷ:

  • Wedi’i osod mewn ardal tangnefeddus, heb ddim sŵn heblaw brefu’r defaid a chanu’r adar

  • Wifi, dau deledu (y ddau efo digifocs Freesat), cadair uchel, crud a barbeciw

  • Cyfleusterau swyddfa, yn cynnwys cyfrifiadur ar ddesg ac argraffydd

  • Agos i’r dre (lle mae digon o gyfleusterau – gweler isod)

  • Digon o le i barcio

  • Llety i wyth

  • Llawer i’ch diddanu yn yr ardal

  • Prisiau rhesymol dros ben – dim ond £30.00 y person, y noson (+ ffi o £72 am lanhau wedi'ch arhosiad)

  • Caiff plant o dan 18 mlwydd oed aros YN RHAD AC AM DDIM

  • Caiff grwpiau aros am £180.00 y noson am yr holl dŷ

Manylion

From Above 2.JPG

​Ar y llawr waelod:

  • Lolfa fawr gyda soffas a chadeiriau, tân agored, teledu digidol freeview, chwaraewr DVDs, piano syth a gemau bwrdd

  • Cegin fawr gyda lle i 10 wrth y bwrdd, ffwrn drydan fawr a modern, hob mawr, peiriant golchi llestri, meicrodon ac oergell-rhewgell

  • Swyddfa fach gada chyfrifiadur ar ddesg ac argraffydd

  • Ystafell haul gyda seddi meddal a golygfeydd godidog, a phatio tu hwnt gyda barbeciw

  • Ystafell ymolchi dillad gyda pheiriant ymolchi a pheiriant sychu

  • Tŷ bach 


​Ar y llawr cyntaf:​

  • Pedair ystafell wely; un â gwely dwbl, dwy â gwely brenin (un o'r rheiny yn en suite, gyda chawod) ac un ystafell â dwy wely sengl

  • Dwy ystafell ymolchi ar wahan; un â chawod ac un â bath

Cyfleusterau yn Llanfyllin

  • Nifer o siopau bach lleol, yn cynnwys cigydd, siop anrhegion, siop elusen, salon harddwch ayyb. Mae na hefyd archfarchnad fach SPAR a Swyddfa’r Post.

  • Tai bwyta yn cynnwys Y Cain (bwyd tafarn) a Seeds (wedi’i argymhell yn y Good Food Guide a’r Michelin Guide) 

  • Tai bwyta takeaway a chaffi

  • Mae tref Y Trallwng – lle mae archfarchnadoedd mwy - tua 12 milltir i ffwrdd 

Eisiau bwcio arhosiad yng Nghaeau Gwynedd?

Ebostiwch Rhiannon ar rmevans508 [at] gmail.com a Catrin ar catrinrogers [at] hotmail.com 

(Gwell ebostio'r ddwy rhag ofn nad yw un ar gael.)

bottom of page